Mae’n bwysig cadw mor heini ac iach â phosibl gydol y flwyddyn, ond gall eich ffordd o fyw wneud hyd yn oed fwy o wahaniaeth i gadw’n iach yn y gaeaf. Gall annwyd neu ffliw wneud i bobl deimlo’n wan iawn, felly mae’n bwysig darllen y cyngor canlynol ar sut i gadw’n hapus ac yn iach yn ystod misoedd y gaeaf:
Cyngor 1- Amddiffyn eich hun rhag y ffliw
Gall y ffliw achosi problemau iechyd difrifol i rai pobl; cofiwch amddiffyn eich hun rhagddo. I gael mwy o wybodaeth am y ffliw tymhorol a’r pigiad ffliw cliciwch yma
Cyngor 2- Bwyta deiet amrywiol a chytbwys
I gael cyngor ar fwyta’n iach a pha fwydydd i’w prynu ar gyfer y gaeaf cliciwch yma
Cyngor 3- Cadw’n weithgar i gadw’r corff a’r meddwl yn iach
Cyngor 4- Cysylltu â Galw Iechyd Cymru os oes gennych unrhyw broblemau iechyd
Os oes gennych unrhyw broblemau iechyd, gallwch gael cyngor am ddim gan y GIG drwy ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu drwy edrych ar eu gwefan yn Galw Iechyd Cymru