Bwyta'n Iach
|
Mae bwyta yn rhan hanfodol o fywyd pawb, ac mae beth yr ydym yn ei fwyta yn dylanwadu ar ein hiechyd. Yn ogystal â chadw yn iach, mae paratoi, coginio a bwyta yn gallu bod yn llawer o hwyl ac yn weithgaredd cymdeithasol pwysig. Gall bod yn ymwybodol am sylfaenu bwyta da a ffordd o fyw iach ein helpu i'n osgoi nifer o'r afiechydon mwyaf cyffredin. |
![]() |
|
Ystyr bwyta'n iach yw: Bwyta amrywiaeth helaeth o fwydydd er mwyn dilyn diet cytbwys. Dydy hyn ddim yn golygu newid yr hyn yr ydych wedi arfer ei fwyta neu orfod fwyta prydiau newydd mwy drud. Mae bwyta'n iach yn bwysig beth bynnag fo'ch oedran oherwydd: -Mae'n eich helpu i gadw'n iach -Mae'n rhoi'r egni i chi fyw bywyd yn llawn Wrth i chi heneiddio, fe fyddwch chi'n dueddol o angen llai o fwyd wrth i chi ddefnyddio llai o egni. Ond, mae'n bwysig eich bod chi'n gwneud yn siw^r eich bod yn bwyta amrywiaeth o fwydydd er mwyn cadw'ch corff i weithio'n iawn. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae'n bosib y byddwch yn llawer mwy tebygol o ddioddef salwch ac mae bwyta'n iach yn hynod o bwysig.
|
![]() |
Sut i fwyta'n fwy iach
Os yw'n bosib, dylech fwyta diet amrywiol bob dydd sy'n cynnwys y pum grw^p sylfaenol o fwydydd (fel a dangosir islaw) er mwyn derbyn cymysgedd da o faetholion er mwyn cynnal eich iechyd. Ffrwythau a llysiau Bara, Grawnfwydydd a thatws Cig, pysgod a'r dewisiadau eraill Llaeth a chynnyrch llaeth Bwydydd sy'n cynnwys braster a bwydydd sy'n cynnwys sigwr |
|
Syniadau defnyddiol:
1. Ceisiwch fwyta yn gyson ac o leiaf tair gwaith bob dydd. Mae bwyd, boed yn boeth neu yn oer yn darparu
cynhesrwydd ac egni.
2. Ceisiwch osgoi bylchau hir rhwng eich prydau
3. Yfwch ddigon o hylifau, ond nid yn union cyn mynd i'r gwely
Llenwi'r cwpwrdd
Wrth i'r gaeaf nesau, mae'n anodd gwybod sut dywydd fydd o ddydd i ddydd felly mae'n syniad da i lenwi'ch cwpwrdd, rhag ofn eich bod methu â chyrraedd y siopau.
Dyma rai syniadau ar eich cwpwrdd cadw:
Grawnfwyd Diodydd I gloi, yn ogystal â bwyta yn iach, dylech sicrhau eich bod yn yfed digon o hylifau er mwyn osgoi disychiad. Yn ddelfrydol, ceisiwch yfed rhwng 6 a 8 gwydr/cwpan/fwg o hylif bob dydd. Gall peth o hwn fod yn de, ond ceisiwch osgoi te gyda eich prydiau (mae'n gostwng amsugniad haearn o fwyd). Yfwch eich te rhyw awr cyn neu ar ôl bwyta. |
|
Am fwy o wybodaeth am fwyta'n iach:
|


