Cymraeg
 

Annwyd a’r Ffliw – Amddiffyn eich hun ac eraill

 

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod pa mor hawdd yw hi i roi annwyd neu’r ffliw i rywun arall drwy besychu a thisian, felly mae’n bwysig cymryd camau hylendid syml fel defnyddio hances bapur i guddio’ch trwyn a’ch ceg wrth besychu/tisian, a golchi’ch dwylo gyda sebon a dwr.

  


 Ffliw Tymhorol

Dros y 2 flynedd diwethaf, mae'n bosibl eich bod wedi clywed llawer am wahanol fathau o firysau ffliw, ffliw moch a'r brechiadau sydd ar gael.  Mae'r wybodaeth ganlynol yn nodi'r ffeithiau pwysig i chi.

 

 
Beth yw symptomau cyffredin ffliw tymhorol? 
 
 Mae’r symptomau yn waeth na symptomau annwyd fel arfer ac yn cynnwys gwres, oerni, cur pen a blinder eithafol, cyhyrau’n brifo.
 
A fydd gwrthfiotigau’n helpu?
Na fydd. Firws ac nid bacteria yw’r ffliw, felly ni fydd gwrthfiotigau’n gallu ei drin.
Pa niwed all ffliw tymhorol ei achosi ?
·         Os ydych yn heini ac iach, mae’n bosibl na fydd y symptomau yn rhy ddifrifol
·         Os oes gennych broblem iechyd hirdymor, gall ffliw ei wneud yn waeth
·         Mae’n gallu arwain at salwch difrifol fel broncitis a niwmonia a hyd yn oed cyfnod   yn yr ysbyty 
·        Mae pobl yn marw o effeithiau’r ffliw bob blwyddyn.
Beth yw’r brechiad rhag y ffliw tymhorol?
·        Bydd yn helpu’ch corff i wneud gwrthgyrff i’ch amddiffyn rhag y ffliw
·        NI fydd yn rhoi’r ffliw i chi gan nad yw’n cynnwys firws byw
·        Cynhyrchir brechiadau newydd bob blwyddyn wrth i’r firysau newid
·        Bydd brechiad 2010 yn amddiffyn pobl rhag firws y ffliw moch yn ogystal â dau fath o ffliw tymhorol disgwyliedig arall.
 
Pryd fydda i’n cael y brechiad?
·        Mae’r brechiad rhag y ffliw tymhorol ar gael AM DDIM i bobl dros 65 oed neu’r rhai sydd â chyflwr hirdymor – cliciwch yma i weld os ydych chi’n gymwys
·        Os ydych chi’n gofalu am unigolyn hyn neu anabl, dylech gael y brechiad er mwyn amddiffyn y rhai sydd o dan eich gofal
·        Fel arfer mae’r brechiad ar gael o fis Hydref ymlaen, a gofynnir i bractisau meddygon teulu wahodd pob claf cymwys i gael y brechiad.
Os nad ydych wedi clywed gan eich meddygfa, dylech siarad gyda rhywun yno gan fod modd cael y brechiad unrhyw bryd yn ystod y gaeaf.
A yw pawb yn gallu cael y brechiad?
·        Nid yw pobl sy’n adweithio’n ddifrifol i’r brechiad rhag y ffliw neu sydd ag alergedd difrifol i wyau ieir yn gallu cael y brechiad fel arfer.

 

 

I lawrlwytho copi o daflen ‘Y ffliw tymhorol – amddiffyn eich hun ac eraill’ a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a GIG Cymru

cliciwch yma