Cynghorion craff ar wresogi’ch cartref ac arbed ynni
Gyda chostau ynni yn fwy uchel nag erioed, gall fesurau syml i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni gael effaith sylweddol ar eich biliau ynni. Gwelwch isod am ein cyngor craff ar gynhesu’ch cartref yn effeithlon:
-
Ewch ati i gael eich cartref wedi’i inswleiddio os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes. Mae gwaith inswleiddio da yn eich cadw’n gynhesach a gall olygu y bydd eich biliau’n llai. Ceir cynghorion ar inswleiddio a gwybodaeth am y grantiau sydd ar gael ar gyfer gwneud y gwaith ym mhob adran o’r llyfryn hwn.
-
Gwnewch yn siwˆr eich bod yn gwybod sut mae’r offer sy’n rheoli’r gwres yn gweithio a defnyddiwch hwy. Gofynnwch i’ch teulu neu’ch ffrindiau i helpu, neu cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol i gael cyngor am ddim. Ffoniwch 029 2057 6286 i gael gwybod ble mae eich Asiantaeth leol.
-
Drwy osod eich system wresogi i’r tymheredd cywir (rhwng 18º a 21ºC, neu 64º - 70º F), gallwch gadw eich cartref yn gynnes a lleihau eich biliau.
-
Gosodwch y gwresogydd i droi ymlaen ychydig cyn i chi godi ac i ddiffodd ar ôl i chi fynd i’r gwely. Os yw’n oer iawn, gosodwch y gwresogydd i droi ymlaen yn gynt ac i ddiffodd yn hwyrach, yn hytrach na throi’r thermostat i fyny.
-
Os na allwch chi wresogi pob ystafell rydych yn ei defnyddio, gwresogwch yr ystafell fyw trwy gydol y dydd a’ch ystafell wely ychydig cyn i chi fynd i'r gwely. Cofiwch gau’r llenni yn syth wedi iddi dywyllu, a chaewch y drysau i gadw’r gwres yn yr ystafelloedd rydych yn eu defnyddio fwyaf.
-
Os ydych chi’n cael trafferth talu eich bil trydan neu nwy, neu’n meddwl y gallai fod yn broblem eu talu, cysylltwch â’r cwmni cyflenwi ynni cyn gynted â phosib. Efallai y gallent eich helpu.
-
Pan fydd y biliau’n cyrraedd, darllenwch y mesurydd. Ffoniwch eich cyflenwr i wneud yn siwˆr eich bod ar y tariff rhatach i chi. Os mai amcangyfrif yw’r bil, rhowch y darlleniad cywir i’r cyflenwr.
-
Os ydych yn dibynnu ar olew i wresogi’ch cartref, dylech ystyried sefydlu grwp prynu gyda chymdogion a ffrindiau sy’n byw yn lleol er mwyn cael gostyngiad drwy swmp-brynu.
-
Arbedwch ynni os oes modd: er enghraifft drwy ddiffodd offer yn hytrach na’u gadael ar ‘standby’, defnyddio bylbiau golau arbed ynni sy’n defnyddio un rhan o bump o’r trydan yn lle’r bylbiau golau arferol a berwi dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch o ddwˆr mewn tegell. I gael cyngor annibynnol am ddim ar arbed ynni, ffoniwch yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512 012 neu ewch i www.energysavingtrust.org.uk neu e-bostiwch www.energysavingwales.org.uk.