Cymraeg
 
Help ariannol i wresogi’ch cartref
 
Os ydych yn cael trafferth i dalu’r biliau ar gyfer cadw’ch cartref yn gynnes, gallech gael grant i’ch helpu i’w talu, i arbed ynni yn eich cartref, i drwsio eich system wresogi neu i gael system newydd wedi’i gosod.
 
Os nad ydych yn gymwys i gael rhai budd-daliadau, efallai y gallech fod yn gymwys i gael rhai eraill. A hyd yn oed os cawsoch eich gwrthod yn y gorffennol, efallai erbyn hyn y gallech fod yn gymwys am ryw fath o help ariannol.
 

 
Taliad tanwydd gaeaf
 
Taliad di-dreth yw hwn i helpu i dalu am wresogi’r cartref yn ystod y gaeaf. Rydych yn gymwys os ydych:
  • yn 60 oed neu’n hyn
  • yn byw fel arfer ym Mhrydain.
     
Faint gallwn ei gael?
 
Eleni, gallech gael Taliad Tanwydd Gaeaf o hyd at £250 ar gyfer aelwydydd gyda rhywun sy’n 60 – 79 oed, neu hyd at £400 ar gyfer person sy’n 80 oed neu’n hyn. Bydd yr union swm y cewch chi’n dibynnu ar eich amgylchiadau yn ystod yr wythnos gymhwyso, sef 15 – 21 Medi 2009, ee eich oed, p’un a ydych yn byw ar eich pen eich hun a ph’un a ydych yn cael Credyd Pensiynau neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm.
 
Byddwch yn derbyn y taliad yn awtomatig os:
  • Ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol arall (heb gynnwys Budd-dal Tai, Budd-dal y Dreth Gyngor neu Fudd-dal Plant);
  • Cawsoch daliad y gaeaf diwethaf ac nad yw eich amgylchiadau wedi newid.
     
Gwneir y taliadau dros nifer o wythnosau o fis Tachwedd ymlaen. Dylech gael eich taliad erbyn y Nadolig – os nad ydych wedi ei gael, dylech wneud cais. Rhaid i chi hawlio ar 30 Mawrth 2010 neu cyn hynny.
 
I gael mwy o wybodaeth am Daliadau Tanwydd Gaeaf, ffoniwch 08459 151515 (ffôn destun 0845 601 5613) 8:30am - 4:30pm Llun-Gwener neu ewch i
www.thepensionservice.gov.uk/winterfuel.
 
Taliad Tywydd Oer
 
Gwneir Taliadau Tywydd Oer yn ystod cyfnodau o dywydd oer iawn i helpu pobl i dalu costau gwresogi ychwanegol. Bydd Taliad Tywydd Oer yn cael ei wneud pan fydd y tymheredd ar gyfartaledd yn eich ardal chi yn sero gradd Celsius yn ôl yr hyn a gofnodir, neu a ragwelir, neu’n is na hynny am saith niwrnod di-dor. Efallai y gallwch gael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael Credyd Pensiwn; Cymhorthdal Incwm ac yn derbyn premiwm pensiynwr neu bremiwm anabledd, neu’n cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, neu os oes gennych blentyn sy’n anabl neu sydd o dan 5 oed.
 
I gael gwybod mwy am Daliadau Tywydd Oer, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith neu ewch i www.jobcentreplus.gov.uk.
 
Y Cynllun Effeithiolrwydd Ynni Cartref (HEES)
 
Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n ariannu’r cynllun hwn i roi help i bobl sy’n byw yng Nghymru sydd ar incwm isel, yn anabl neu’n bensiynwyr, i wneud eu cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni. Gall aelwydydd sy’n gymwys i dderbyn grant fanteisio ar fesurau i inswleiddio’r atig, inswleiddio waliau ceudod, atal drafftiau, inswleiddio’r tanc dwˆr poeth, newid system gwres canolog a thrwsio systemau gwres canolog sydd wedi torri.
 
Mae HEES hefyd yn cynnig cynnal gwiriad o’ch hawl i gael budd-daliadau.
 
I gael mwy o wybodaeth neu i wneud cais, ffoniwch 0800 316 2815 neu ewch i www.heeswales.co.uk i wneud cais ar-lein.
 
Grantiau gan Gwmnïau Cyflenwi Trydan a Nwy
 
Mae’n ddyletswydd ar bob cyflenwr ynni i leihau allyriadau carbon drwy fuddsoddi mewn mesurau defnyddio ynni’n effeithlon mewn cartrefi, fel inswleiddio. Gallwch fanteisio ar grantiau a chynigion gan unrhyw gwmni ynni, hyd yn oed os nad ydynt yn cyflenwi’ch trydan a nwy. Mae’r rhan fwyaf o’r cwmnïau yn cynnig cymorthdaliadau, waeth beth yw eich incwm neu’ch oed; ac mae grantiau llawn ar gael i ddeiliaid cartrefi sy’n 70 oed a throsodd, yn anabl neu ar incwm isel.
 
Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512 012 i siarad â chynghorydd ynglyˆn â’r help y mae cwmnïau ynni yn ei gynnig yn eich ardal. Neu, ewch i www.energysavingtrust.org.uk lle gallwch ddod o hyd i’r help sydd ar gael yn eich ardal chi yn ôl y cod post. Mae darparwyr ynni hefyd wedi ffurfio partneriaeth gyda’r Llywodraeth i roi gwybodaeth uniongyrchol i ddefnyddwyr am y mentrau hyn.
 
Grantiau’r cynghorau lleol
 
Os ydych ar incwm isel, efallai y gall eich cyngor lleol eich helpu i wella a thrwsio eich cartref, drwy ei inswleiddio. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld a ydych yn gymwys i gael grant.