Cymraeg
 

 

Ffynonellau eraill o gyngor a gwybodaeth ariannol

 

Bob blwyddyn, gallai miloedd o bensiynwyr bregus yng Nghymru fod yn colli’r cyfle i fanteisio ar yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl i’w cael. Os ydych yn cael trafferth talu’ch biliau, mae nifer o sefydliadau a all eich helpu i weld a oes gennych hawl i gael budd-daliadau ac i roi cyngor i chi ar sut i’w hawlio.

 Edrychwch isod am ragor o wybodaeth:


 Nest
Cynllun a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru yw Nest, a hynny er mwyn gwneud cartrefi yn y sector preifat yn lleoedd cynhesach ac iachach i fyw ynddynt. I fod yn gymwys i gael asesiad Ty Cyfan Nest, rhaid i’r deiliaid fod yn berchen ar eu cartref neu ei rentu’n breifat, derbyn budd-dal prawf modd, a byw mewn eiddo sy’n aneffeithlon o ran ynni gyda graddfa effeithlonrwydd ynni o F neu G.
Yn ogystal â chymorth i gael at welliannau effeithlonrwydd ynni, mae Nest yn cynnig arweiniad ar hawliau budd-dal, rhestrau prisiau ynni a rheoli arian drwy amrywiaeth o bartneriaid arbenigol. Nest yw Cynllun Tlodi Tanwydd Newydd (CTTN) Llywodraeth Cymru a Nwy Prydain yw partner darparu’r cynllun. Bydd tîm o arbenigwyr Nwy Prydain ledled Cymru yn ymweld ag eiddo cymwys i gynnal Asesiad Ty Cyfan cyn awgrymu, cytuno a gosod ystod o gamau addas ar gyfer y cartref hwnnw a’r bobl sy’n byw yno.
Os ydych yn berchen ar eich eiddo neu’n ei rentu’n breifat, yn derbyn budd-dal prawf modd, ac yn credu y gallai eich cartref fod ar raddfa F neu G, ffoniwch radffôn 0800 512 012 i wneud cais i Nest.

Ffoniwch radffôn 0800 512 012
Ewch i nestwales.org.uk


 Cynllun Disgownt Cartref Clyd


Mae’r Cynllun Disgownt Cartref Clyd yn galw ar y cyflenwyr ynni sy’n cymryd rhan i roi ad-daliad ar eu bil trydan i grwp penodol o’u cwsmeriaid hyn ar incwm isel. Bydd y Llywodraeth yn hysbysu cyflenwyr pa gartrefi i’w cefnogi drwy rannu data cyfyngedig rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r cyflenwyr ynni.
Mae cymhwyster yn gysylltiedig â math arbennig o fudd-daliadau a dderbynnir ac, yn achos y gaeaf hwn, ad-delir £120 oddi ar filiau trydan y bobl hyn a oedd yn gymwys ar 11 Medi 2011:
• Roeddent yn derbyn elfen Gwarant Credyd y Credyd Pensiwn ond nid yr elfen credyd arbedion
• mae eu cyflenwr trydan yn cymryd rhan yn y cynllun
• mae eu henw nhw neu eu partner ar eu bil trydan
Ni fydd cwsmeriaid sy’n derbyn elfen credyd arbedion y credyd pensiwn yn gymwys y gaeaf hwn.
Dyma restr o enwau’r cyflenwyr trydan sy’n rhan o’r cynllun:
Atlantic, British Gas, EDF Energy, E.ON, Equipower, Equigas, Manweb , M&S Energy npower, Sainsbury's Energy, Scottish Gas, Scottish Hydro, ScottishPower, Southern Electric, SSE, Swalec  ac Utility Warehouse. 
 
 

Grantiau gan Gwmniau Cyflenwi Trydan a Nwy

 Mae’n ddyletswydd ar bob cyflenwr ynni i leihau allyriadau carbon drwy fuddsoddi mewn mesurau defnyddio ynni’n effeithlon mewn cartrefi, fel inswleiddio. Gallwch fanteisio ar grantiau a chynigion gan unrhyw gwmni ynni, hyd yn oed os nad ydynt yn cyflenwi’ch trydan a nwy. Mae’r rhan fwyaf o’r cwmnïau yn cynnig cymorthdaliadau, waeth beth yw eich incwm neu’ch oed; ac mae grantiau llawn ar gael i ddeiliaid cartrefi sy’n 70 oed a throsodd, yn anabl neu ar incwm isel.

 
Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512 012 i siarad â chynghorydd ynglyˆn â’r help y mae cwmnïau ynni yn ei gynnig yn eich ardal. Neu, ewch i www.energysavingtrust.org.uk lle gallwch ddod o hyd i’r help sydd ar gael yn eich ardal chi yn ôl y cod post. Mae darparwyr ynni hefyd wedi ffurfio partneriaeth gyda’r Llywodraeth i roi gwybodaeth uniongyrchol i ddefnyddwyr am y mentrau hyn.
 

 Grantiau'r cynghorau lleol

 Os ydych ar incwm isel, efallai y gall eich cyngor lleol eich helpu i wella a thrwsio eich cartref, drwy ei inswleiddio. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld a ydych yn gymwys i gael grant.


 Gwasanaeth Pensiwn

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn rhan o Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU. Mae ganddo rwydwaith o ganolfannau sy’n delio ag ymholiadau a hawliadau gan bobl sydd neu ar fin bod yn bensiynwyr. Gallwch hefyd wneud apwyntiad ymlaen llaw i drefnu i gynghorydd ddod i’ch gweld yn eich cartref os oes angen neu i’ch cyfarfod mewn un o nifer o fannau Gwybodaeth am Wasanaethau Lleol ledled Cymru.  I gysylltu â’r gwasanaeth, ffoniwch 0845 60 60 265 8am-8pm, Llun – Gwener (ffôn destun 0845 60 60 285). Gall cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg ac yn byw yng Nghymru ffonio 0845 60 60 275 (ffôn destun 0845 60 60 295). Neu ewch I Gwasanaeth Pensiwn 


 Age Cymru ac Age Concern

I ddod o hyd i’ch swyddfa Age Concern leol i gael cyngor ar fudddaliadau, edrychwch yn eich llyfr ffôn lleol; neu Llinell gymorth 0800 169 65 65. Ewch I Age Cymru

Cliciwch fan hyn i lawr lwytho copi o daflen

'Canllaw cryno i fudd-daliadau, hawliau ariannol a chymorth ariannel i bobl hyn yng Nghyru'

 


Canolfan Cyngor ar Bopeth  Grantiau


 

Direct Gov

Directgov yw gwefan swyddogol Llywodraeth y DU ar gyfer dinasyddion. Mae ganddi adran ar arian, trethi a budd-daliadau, gan gynnwys cynghorydd budd-daliadau a all eich helpu i gael gwybodaeth am y budd-daliadau a’r credydau treth y gallech fod â hawl iddynt. Ewch i Direct Gov.

 


Grantiau a benthyciadau

Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn, efallai eich bod yn gymwys i gael grant gofal yn y gymuned, benthyciad cyllidebu neu fenthyciad argyfwng. I gael cyngor cyfrinachol, ffoniwch 0800 882 200 (ffôn destun 0800 243 355) 8:30am – 6:30pm Llun - Gwener a 9am – 1pm ddydd Sadwrn.

 


 

 Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar gyfer Pobl Anabl a Gofalwyr

 Mae’r llinell gymorth gyfrinachol hon yn rhoi cyngor ar fudddaliadau i bobl anabl a’u gofalwyr. Ffoniwch 0800 882 200 (ffôn destun 0800 243 355). Llinellau ar agor 8:30am- 6:30pm Llun – Gwener a 9am-1pm ddydd Sadwrn.


Dial UK

 Mae’r Llinell Gwybodaeth a Chyngor ar Anabledd (DIAL) yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar bob agwedd ar fyw gydag anabledd. I gael gwybod ble mae eich canolfan gyngor agosaf, ffoniwch 01302 310 123 (ffôn destun 01302 310 123) 10am-4pm, Llun – Iau a10am-3pm Gwener, e-bostiwch informationenquiries@dialuk.org.uk neu ewch i Dial UK.

 


 Cliciwch fan hyn am Cadwch yn Gynnes