Ffynonellau eraill o wybodaeth a help
Mae nifer o sefydliadau yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau i bobl hyn ac efallai byddant yn gallu helpu. Edrychwch isod am ragor o wybodaeth:
Sefydliadau Lleol Age Concern
Mae nifer o sefydliadau Age Concern yng Nghymru, gyda phob un yn cynnig rhaglen gwahanol o wasanaethau i ateb anghenion y bobl leol, i liniaru unigedd ac unigrwydd cymdeithasol, i uchafu incwm ac i hyrwyddo iechyd a lles er mwyn helpu pobl hyn i fyw bywydau llawn ac annibynnol. Mae esiamplau o’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys:
Cyfeillio
Siopa
Cymorth Ymarferol
Trafnidiaeth
Help i lenwi ffurflenni budd-daliadau
Eiriolaeth
Canolfannau galw heibio
Gweithgareddau
Dosbarthiadau ymarfer corff
I ddod o hyd i’ch Age Concern lleol, edrychwch yn eich llyfr ffôn lleol, cysylltwch ag Age Concern Cymru a Help the Aged Cymru ar 029 2043 1555 neu ymwelwch â www.agecymru.org.uk.
Cymorth Ymarferol
Trafnidiaeth
Help i lenwi ffurflenni budd-daliadau
Eiriolaeth
Canolfannau galw heibio
Gweithgareddau
Dosbarthiadau ymarfer corff
I ddod o hyd i’ch Age Concern lleol, edrychwch yn eich llyfr ffôn lleol, cysylltwch ag Age Concern Cymru a Help the Aged Cymru ar 029 2043 1555 neu ymwelwch â www.agecymru.org.uk.
Asiantaethau Gofal a Thrwsio lleol
Mae Asiantaethau Gofal a Thrwsio yn cynnig cyngor a chymorth i alluogi pobl hyˆn sy’n berchen ar eu cartrefi eu hunain i aros ynddynt. Gallant helpu drwy ddod â’r arbenigedd a’r arian sydd eu hangen ynghyd er mwyn gwneud y gwaith trwsio, y gwelliannau a’r addasiadau angenrheidiol i gartrefi pobl hyn. Gall y gwaith sy’n cael ei wneud amrywio o fân eitemau fel trwsio tap sy’n gollwng, gosod rheiliau llaw neu gloeon newydd i gynlluniau mawr fel adeiladu ystafell ymolchi gyda chyfleusterau arbennig neu osod to newydd. Gallant hefyd helpu i ddod o hyd i gontractwyr ac adeiladwyr lleol dibynadwy.
Mae Asiantaeth Gofal a Thrwsio ym mhob sir yng Nghymru. I gael gwybod ble mae eich Asiantaeth agosaf, ffoniwch 029 2057 6286 neu ewch i www.careandrepair.org.uk.
Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched (WRVS)
Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu pobl hyˆn i gael mwy o flasar fyw drwy gynnig amrywiaeth o wasanaethau yn y cartref, yn yr ysbyty ac ym mhob rhan o’r gymuned. Er enghraifft, mae gwirfoddolwyr y Gwasanaeth yn rhedeg canolfannau cymunedol, clybiau cinio, neu’n helpu pobl yn eu cartrefi. I gael gwybod beth mae’r Gwasanaeth yn ei gynnig yn eich ardal, ffoniwch 029 2073 9000, ewch i www.wrvs.org.uk neu ysgrifennwch at Ganolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid WRVS, Beck Court, Parc Busnes Porth Caerdydd, Caerdydd CF23 8RP.
Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes
Llinell gymorth am ddim yw hon sy’n cynnig gwybodaeth am gadw’n gynnes, arbed ynni, cynlluniau taliadau rhatach a grantiau ar gyfer inswleiddio’ch cartref. Gallant eich helpu i wneud yn siwˆr eich bod ar y tariff rhataf i chi.
Ffoniwch Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes ar 0800 33 66 99, 9am-8pm Llun – Gwener a 9am-3pm ddydd Sadwrn (minicom 0800 027 2122) neu ewch i www.homeheathelpline.org.
Neu, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni i weld pa gymorth ychwanegol y gallech ei hawlio. Os ydych yn cael trafferth talu’ch bil neu’n meddwl y cewch broblem i’w dalu, dylech rhoi gwybod i’ch cyflenwr ynni cyn gynted â phosibl.
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Mae cynghorwyr lleol yr Ymddiriedolaeth yn rhoi cyngor di-dâla diduedd ar wneud eich cartref yn ynni-effeithlon. Gallant hefyd ddweud wrthych chi am y grantiau a allai fod ar gael yn eich ardal leol i roi mesurau arbed ynni ar waith.
Ffoniwch 0800 512 012, 9am-8pm Llun – Gwener i siarad â chynghorydd. Neu ewch i www.energysavingtrust.org.uk.
Consumer Direct
Gwasanaeth sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth yw Consumer Direct. Mae’n cynnig gwybodaeth a chyngor ymarferol, di-duedd a di-dâl ar faterion yn ymwneud â defnyddwyr.
Ffoniwch 08454 040506, 8am-6:30pm Llun – Gwener a 9am- 1pm ddydd Sadwrn neu ewch i www.consumerdirect.gov.uk.
RNIB
Mae’r RNIB yn rhoi gwybodaeth, cymorth a chyngor i unrhyw un sydd â phroblem ddifrifol o ran eu golwg, i’w perthnasau, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Ffoniwch Llinell Gymorth yr RNIB ar 0945 766 9999 9am-5pm Llun-Gwener neu ewch i www.rnib.org.uk.
RNID
Mae’r RNID yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i unrhyw un sy’n fyddar neu’n drwm ei glyw, i’w perthnasau, eu ffrindiau neu eu gofalwyr. Ewch i’w wefan ar www.rnid.org.uk neu ffoniwch y Llinell Wybodaeth ar 0808 808 0123 (ffôn destun 0808 808 9000).